Mae’r pwerdy clasurol rhyfeddol, The Opera Boys, yn falch iawn o gyhoeddi eu taith olaf, yn cynnwys y tenor byd-enwog ac enillydd cyntaf un Britain’s Got Talent,Paul Potts.
Yn dilyn blynyddoedd o berfformiadau wedi gwerthu pob tocyn ledled y byd, mae The Opera Boys yn ymuno â’r dyn a gipiodd galonnau’r byd gyda’i glyweliad chwedlonol o ‘Nessun Dorma’. Mae’r cydweithrediad yma’n addo noson o nodau soniarus, harmonïau hyfryd, a’r cyfuniad perffaith o opera, theatr gerdd a chlasuron pop modern.
Fe ddaeth Paul Potts yn enw cyfarwydd yn 2007, gan ennill tymor cyntaf Britain’s Got Talent. Ers hynny, mae wedi rhyddhau albymau aml-blatinwm, wedi perfformio mwy na 1,500 o sioeau mewn 45 o wledydd, ac wedi ysbrydoli’r ffilm Hollywood fywgraffyddol, One Chance.
Mae The Opera Boys yn grŵp clasurol blaenllaw sy’n cynnwys dynion sydd wedi chwarae’r prif rannau yn y West End yn Llundain ac ar Broadway. Maen nhw wedi perfformio i’r Teulu Brenhinol, wedi ymddangos ar deledu cenedlaethol, ac wedi perfformio i theatrau a neuaddau cyngerdd a gwerthu pob tocyn ledled y byd, gan gyflwyno harmonïau pedair rhan a pherfformiadau unigol cyfareddol, sy’n cael eu cyflwyno yn eu steil unigryw.




