The Snowman and the Snowdog NEW Sinfonia

See dates and times  

Ymunwch â NEW Sinfonia am uchafbwynt cerddorol tymor y Nadolig, y digwyddiad Teuluol Llawennus gorau yr ochr hon i Begwn y Gogledd!

Bydd ein perfformiad Nadoligaidd hudolus yn cynnwys dangosiad arbennig o'r ffilm Y Dyn Eira a’r Ci Eira gyda'r trac sain syfrdanol yn cael ei berfformio'n fyw gan gerddorfa NEW Sinfonia. Bydd antur Nadoligaidd gyffrous hefyd i'n deinosor cerddorol chwilfrydig Slumbersaurus, sydd angen eich help chi i achub Siôn Corn a'r Nadolig.

Gyda rhaglen yn llawn o'ch hoff ganeuon Nadolig i'w canu, ymweliadau arbennig gan Y Dyn Eira a Siôn Corn, a gweithgareddau crefft Nadoligaidd i bawb, rydym yn cynnig eich holl ddymuniadau Nadolig mewn un sioe llawennus.


  • Robert Guy

    Arweinydd
  • Lynwen Haf Roberts

    Adroddwr