The Take That Experience

See dates and times  

Wrth i Take That ddathlu mwy na 30 mlynedd fel band bois rhif un y DU, mae The Take That Experience yn dathlu mwy na degawd gyda’i gilydd fel act deyrnged fwyaf poblogaidd a chydnabyddedig TAKE THAT.

Gyda pherfformiadau lleisiol nodedig, gwisgoedd replica trawiadol a threfniadau dawns eiconig, mae The Take That Experience yn ail-greu hud Take That yn fyw ar y llwyfan gyda’u ‘Greatest Hits Tour’.

Mae’r sioe anhygoel yma’n cynnwys caneuon eiconig gyrfa Take That yn rhychwantu tri degawd – o glasuron y 90au i’w llwyddiannau mwy diweddar. Mae’r caneuon yn cynnwys Pray, Relight My Fire, Patience, Shine, These Days, Rule The World a mwy.

Mae’n rhaid i bob cefnogwr Take That weld y sioe yma oherwydd nid dim ond sioe gwbl fythgofiadwy gewch chi… maen nhw’n rhoi The Take That Experience i chi!