Noson gyda Sêr Pêl Droed Cymru’n dod i Wrecsam! Fe fydd ymosodwyr Cymru, John Hartson a Dean Saunders, yn dod i Neuadd William Aston i siarad am eu gyrfaoedd pêl droed llawn cyffro. Bydd y noson yn llawn hanesion am eu dyddiau chwarae a chipolwg ar fywyd chwaraewr pêl droed. Fe fyddan nhw’n sgwrsio am gemau, straeon o’r ystafell wisgo / maes hyfforddi, rheolwyr, cwerylon a phopeth yr hoffech chi ei wybod am chwarae i glwb pêl droed byd-enwog! Yn ymuno â nhw ar y llwyfan bydd un o sêr Wrecsam, Mickey Thomas, wnaeth fwy na 230 o ymddangosiadau i Wrecsam. Mae hon yn noson na ddylid ei cholli i unrhyw gefnogwr pêl droed! Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i’r sêr yn ystod y noson! Mae nifer cyfyngedig o docynnau VIP ar gael, mae hyn yn cynnwys sesiwn cwrdd a chyfarch gyda'r chwaraewyr chwedlonol a chyfle i dynnu lluniau cyn y sioe. |
Dean Sanders
John Hartson
Mickey Thomas