Dathlu 50 Mlynedd o Hud y Pantomeim gyda Tip Top Productions!
Ymunwch â ni am antur hynod hudolus wrth i ni gyflwyno Dick Whittington and His Cat.
Mae’r pantomeim eleni yn ddathliad arbennig iawn, gan fod 2025 yn garreg filltir arwyddocaol i’n hawdur a’n cyfarwyddwr, Peter Swingler OBE. Mae 50 mlynedd wedi mynd heibio ers iddo gyfarwyddo ei bantomeim cyntaf un – yr enwog Puss in Boots yn llawn cathod – a nawr, hanner canrif yn ddiweddarach, mae’n ôl gyda stori gyffrous arall yn llawn cathod!
Dilynwch Dick Whittington a'i gydymaith clyfar wrth iddyn nhw deithio i Lundain i chwilio am enwogrwydd, ffortiwn, a strydoedd wedi'u palmantu ag aur. Ar hyd y ffordd, fe fyddan nhw'n wynebu'r King Rat dieflig a'i gynlluniau drygionus mewn stori sy'n llawn direidi, hud ac anhrefn.
Gyda gwisgoedd godidog, caneuon fydd yn gwneud i chi fod eisiau dawnsio, comedi doniol i blant ac oedolion a digon o gymryd rhan gan y gynulleidfa, mae cynhyrchiad eleni yn ddathliad o 50 mlynedd o wychder y pantomeim, ac yn un na fyddwch chi eisiau ei golli!
Dewch i anrhydeddu gwaddol o chwerthin, hud, a hwyl i’r teulu – mae’n mynd i fod yn gwbl wefreiddiol!