MAE’R ‘BOY BANDS’ YN ÔL... YDYCH CHI’N BAROD!
Mae’n amser am y peiriant gwynt ac yn gyfle i ddathlu'r 90au!
Mae Five, band o bump sydd â phŵer i rocio, yn addo noson unigryw o nostalgia di-stop i chi yn y daith theatr newydd a chyffrous yma.
Bachwch eich ffrindiau am barti heb ei ail wrth i chi gael eich cludo ar siwrnai o ganeuon brig y siartiau gan Blue, Boyzone, N*Sync, Westlife, Backstreet Boys, Take That a llawer mwy.
Yn cynnwys mwy na 30 o glasuron pop gan gynnwys One Love, Words, Love Me For A Reason, Bye Bye Bye, Uptown Girl, Flying Without Wings, I want It That Way, Prey a Relight My Fire, mae’r Ultimate Boyband Party Show yn noson allan hanfodol fydd yn gwneud i chi deimlo ar ben y byd.
Felly, ewch amdani! Estynnwch am eich het Kangal a'ch trowsus cargo, tynnwch y llwch oddi ar eich ffyn golau, a Get On Up am noson fythgofiadwy.