Camwch i fyd soul, rhamant a rhythmau bythgofiadwy gyda Luther Live & Velvet Voices – y profiad theatr fyw eithaf sy'n dathlu oes aur R’n’B.
Mae'r sioe drydanol yma’n dod â synau llyfn Luther Vandross, Alexander O'Neal a llawer o rai eraill yn fyw, gyda lleisiau pwerus, band byw syfrdanol, a'r holl emosiwn y byddech chi'n ei ddisgwyl gan y lleisiau a ddiffiniodd genhedlaeth.
Mae'r sioe hefyd yn talu teyrnged i gasgliad o gewri’r byd R’n’B, gan gynnwys Marvin Gaye, Bobby Brown a George Benson – gan gyflwyno cân ar ôl cân eiconig o'r 80au a'r 90au a fydd yn gwneud i chi ddawnsio yn eich sedd a chydganu pob gair.
Byddwch yn barod i glywed Never Too Much, Shine, Give Me The Reason, Dance With My Father, Sexual Healing a mwy.
Yn cynnwys talentau lleisiol syfrdanol Gamal John (torrwr rheolau botwm aur Britain’s Got Talent). Byddwch yn barod am noson fythgofiadwy o alawon llyfn, harmonïau melys, a pherfformiadau sy'n cyffroi'r enaid.








