Pa le gwell i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru nag wrth ymyl y Cae Ras yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam?
Cyfle i ffans pêl-droed Cymru wrando ar anthem Yws GwyneddNi fydd y Wal (Euro2020) a CandelasRhedeg i Paris (Euro2016).
Bydd Tara Bandito yn rhoi sioe gofiadwy i gloi'r noson. Merch i'r peldroediwr a reslwr Orig Williams (El Bandito) yw Tara, sydd hefyd wedi actio ar lwyfannau yn Llundain ac yn y gyfres Pobol y Cwm.
Ac bydd cychwyn ffrwydrol i'r noson gan y band ifanc CELAVI sy'n chwarae cerddoriaeth nu-metal ac sydd wedi derbyn sylw mawr ar BBC Radio 1.
A gwyliwch allan am selebs pêl-droed fydd yn bresennol. Dowch efo'ch baneri!