Walk Right Back

See dates and times  

Cyfle i ymgolli mewn ton o hiraeth roc a rôl melys a phur gyda Walk Right Back!

Yn cael ei chyflwyno i chi gan grëwyr That’ll Be The Day, mae’r sioe yma’n adrodd stori’r ddau fachgen o Kentucky a greodd hud lleisiol heb ei ail - The Everly Brothers.

Byddwch yn barod am siwrnai wefreiddiol o'u gwreiddiau yn Kentucky i'w haduniad godidog yn y Royal Albert Hall yn Llundain, gyda riffs gitâr nodweddiadol a'r harmonïau bythgofiadwy hynny, ac yn cynnwys caneuon eiconig fel Bye Bye Love, Wake Up Little Susie ac All I Have To Do Is Dream. Bydd pob perfformiad yn cael ei gyflwyno gydag egni heintus ac yn cyfleu hanfod twymgalon The Everly Brothers.