Ignacio Lopez

See dates and times  

Mae Ignacio Lopez yn gomedïwr o Sbaen a Chymru sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae ei deulu'n cynnwys Sbaenwyr, Cymry, Gwyddelod, Morociaid ac Almaenwyr. Mae cyfarfodydd teuluol fel cyfarfod o'r Cenhedloedd Unedig.

Wedi'i frandio fel Allforyn Gorau Sbaen gan Lysgenhadaeth Sbaen a’r Swyddfa Diwylliant yn y DU, mae Ignacio wedi ymddangos ar raglenni teledu gan gynnwys Live At The Apollo, Have I Got News For You, Comedy Central Live, a mwy.

Yn ogystal â chyflwyno ar y teledu, cloi nosweithiau yn y clybiau comedi gorau ledled y DU ac Ewrop, a gwneud hwyl ar ben bobl Prydain yn uniongyrchol yn eu hwynebau, mae Ignacio yn ysgrifennu sgetsys a chomedïau sefyllfa, ac roedd yn arfer trydar llawer. Bob rhyw fis neu ddau byddai rhywbeth y byddai'n ei drydar yn mynd yn feiral a byddai'n cael ychydig filoedd o ddilynwyr ychwanegol cyn iddyn nhw sylweddoli mai nid dim ond trydar sylwadau doniol am drafnidiaeth gyhoeddus a chaneuon am gasáu'r DU mae o – wedyn maen nhw'n rhoi’r gorau i’w ddilyn o nes bod y trydariad nesaf yn mynd yn feiral. Y basdads anwadal.

Ar ôl perfformio i garfan bêl-droed Cymru, agor i James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers, diddanu'r fyddin, a chyflwyno digwyddiadau comedi a chorfforaethol ledled y byd, yn ôl y cyfrif diwethaf (bore heddiw, fwy na thebyg) mae fideos Ignacio wedi cael eu gwylio fwy na 100 Miliwn o weithiau ar-lein.