Jo Caulfield: Here Comes Trouble

Gŵyl Gomedi Wrecsam

See dates and times  

0 Stars

Sharp-witted urban comedy that goes down a treat… like a sociology textbook but with jokes.
The Times

Gallwch ddisgwyl sylwadau miniog a jôcs un-lein gwarthus wrth i Jo ei rhoi hi i bawb a phopeth.

O weiddi ar ddieithriaid ar drenau (a llawer o lefydd eraill), i gythruddo ei chymdogion a thrafod ffantasïau rhywiol chwerthinllyd, mae gan Jo lawer i'w ddweud a hyd yn oed mwy i hefru amdano.

Dydi hi ddim yn bwriadu achosi trafferth ond mae’n rhaid i rywun ddweud wrth Y FENYW YNA sy’n gwisgo crys-T ‘Be Kind’ beth mae pawb arall yn ei feddwl. Mae’n rhaid i rywun ddweud wrth ei gŵr bod ei ‘gynlluniau i ddod yn gyfoethog yn gyflym’ yn chwerthinllyd ac mae’n rhaid i rywun ‘weithredu fel asiant cudd’ i ddarganfod beth mae dynion wir yn siarad amdano pan nad oes merched o gwmpas.

Dyma Jo Caulfield yn gwneud yr hyn mae hi’n ei wneud orau; Stand-Yp pur. Dim ond Jo, meicroffon ac agwedd wael.

Mae hi wedi ymddangos ar Richard Osman’s House of Games, Michael McIntyre’s Comedy Roadshow, Mock The Week, The John Bishop Show, Have I Got News For You, The Royal Variety Show, Just A Minute, Breaking The News a The News Quiz.