WCF - Maybe A Ghost Story by Daniel Kitson

See dates and times  

Dydw i ddim yn credu mewn Ysbrydion a dydw i ddim yn gyfforddus iawn gyda (nac yn dda am) ddychryn pobl.

Un noson Calan Gaeaf, dros ddeugain mlynedd yn ôl, fe wnes i, Mam a fy mrawd ddiffodd bob golau yn y tŷ ac aros jyst tu mewn i'r drws ffrynt i fy nhad ddod adref o'r gwaith er mwyn i ni allu ei ddychryn. Roedden ni wedi gwneud lanterni i godi braw arno fo o faip ac wedi dysgu cân eithaf dychrynllyd am wrachod.

Ond pan gerddodd Dad i mewn, doedd o ddim wedi dychryn.

A dweud y gwir, roedd o’n edrych yn reit falch.

Nawr, roedd hyn amser maith yn ôl, felly dydw i ddim yn cofio'r holl fanylion ond, yn ôl pob tebyg, roedd Dad, ar ôl dod rownd y gornel a gweld y tŷ mewn tywyllwch llwyr, yn ddryslyd ac yn bryderus hefyd braidd ynghylch ble roedd ei deulu, a hefyd yn poeni am ein lles ni. Felly, roedd cerdded i mewn a dod o hyd i ddau fachgen bach yn chwifio llysiau wedi'u goleuo gan gannwyll ac yn canu cân am mai nhw oedd y gwrachod hyllaf welodd neb erioed, mewn ffordd ryfedd, yn gysur mawr iddo fo.

Yn nes ymlaen, fe ddywedodd ei fod wedi bod yn poeni am fod yr holl oleuadau i ffwrdd ac roeddwn i'n teimlo'n ddrwg am achosi'r pryder hwnnw.

Rydw i'n dal i deimlo felly.

Stori dymhorol unigryw gan Daniel Kitson sy'n bendant yn ddoniol, yn frawychus o bosibl ac efallai, dim ond efallai, yn stori ysbryd.