
WCF - Tom Rosenthal: Whatever People Say I Am, That’s What I Am (Warm-up)
Tŷ Pawb
Mae Tom Rosenthal yn cynhesu ei sioe newydd sbon yng Ngŵyl Gomedi Wrecsam cyn cychwyn ar daith ledled y wlad.
Fe gyrhaeddodd albwm yr Arctic Monkeys, Whatever People Say I Am, That's What I'm Not, y silffoedd ym mis Ionawr 2006.
Daeth traciau fel I Bet You Look Good on the Dancefloor a When the Sun Goes Down yn anthemau, gan arddangos geiriau craff a dull adrodd straeon arsylwadol Alex Turner.
Mae sioe newydd Tom Rosenthal yn teithio'r DU ac Iwerddon yn 2026. Mae gan jôcs fel Wimbledon, Daniel Radcliffe a Some Weather We’re Having y potensial i ddod yn glasuron, gan arddangos trwyn craff a chwyno arsylwadol Rosenthal.
Yn seren ar Friday Night Dinner (C4) a Plebs (ITV), dyma ddychweliad hirddisgwyliedig Tom i fyd stand-yp yn dilyn ei sioe yn 2019 a enillodd fri’r beirniaid, Manhood.