Gyda mwy nag 20 miliwn yn gwylio ar-lein, mae Welsh of the West End wedi mynd yn feiral.
Gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda’u fersiynau syfrdanol o glasuron theatr gerdd, maen nhw wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a’r London Palladium, ac wedi syfrdanu cynulleidfaoedd yn rhyngwladol drwy gyrraedd rownd gyn-derfynol fyw Britain’s Got Talent ar ITV.
Wedi cael sylw gan Official London Theatre, What’s on Stage, ITV a’r BBC, mae’r criw theatr gerdd rhagorol yma’n cynnwys perfformwyr o Gymru o sioeau fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.




