Whitney: Queen of the Night

See dates and times  

Yn syth o’r West End, y Palladium yn Llundain, a’r Royal Albert Hall eiconig, mae Whitney – Queen of the Night yn ddathliad o gerddoriaeth a bywyd un o’r cantorion gorau erioed: Whitney Houston!

Bydd cyfle i brofi’r deyrnged eithaf i repertoire cerddorol hynod Whitney Houston mewn cynhyrchiad gwefreiddiol sy’n anrhydeddu ei chaneuon oesol gyda chantorion cwbl nodedig a band byw llawn.

Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan siwrnai ryfeddol drwy dri degawd o ganeuon hynod boblogaidd fel I Wanna Dance With Somebody, One Moment In Time, I’m Every Woman a llawer mwy.

Ymunwch â ni am noson na ddylech chi ei cholli yn llawn cerddoriaeth fyw, coreograffi cyfareddol, a lleisiau pwerus, wrth i ni dalu teyrnged i’r unig queen of the night.

Sylwch: Mae Whitney - Queen of the Night yn gynhyrchiad teyrnged ac nid yw'n cael ei gymeradwyo gan Stad Whitney Houston nac yn gysylltiedig â hi.