Wizard of Oz

See dates and times  

Gyda Steve Royle oedd yn rownd derfynolBritain’s Got Talent yn serennu fel Scarecrow a Stevi Ritchie o’r X Factor fel Tin Man!

Yn ystod gwyliau ysgol mis Ebrill eleni, dilynwch y Yellow Brick Road i Neuadd William Aston am fersiwn pantomeim newydd sbon, gwych ar gyfer y Pasg o The Wizard of Oz.

Ymunwch â merch fferm o Kansas, Dorothy, a’i chi anwes Toto ar yr antur hudol yma sy’n addas i bob oed. Gwyliwch mewn syndod wrth iddyn nhw gael eu codi gan gorwynt a'u cludo i wlad hudolus Oz. Gyda help gan eu ffrindiau newydd y Munchkins, maen nhw’n teithio i'r Emerald City lle mae'r Wizard of Oz chwedlonol yn byw.

Ar eu ffordd maen nhw'n cwrdd â Scarecrow sydd angen ymennydd, Tin Man sydd angen calon, a Cowardly Lion sydd wir angen dewrder. A fydd y Wizard of Oz bendigedig yn gallu eu helpu cyn i’r Wicked Witch of the West eu dal nhw yn ei dwnjwn?

Dewch i ymuno yn yr hwyl dros yr enfys yng ngwanwyn 2025 wrth i Enchanted Entertainment gyflwyno fersiwn pantomeim Pasg rhyfeddol o stori dylwyth teg hyfryd L. Frank Baum. Yn llawn dawnsfeydd gwych, caneuon pop adnabyddus, llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa a digon o chwerthin i’r teulu cyfan!

Does unman fel Neuadd William Aston ar gyfer adloniant teuluol, felly cliciwch eich sodlau at ei gilydd ac archebu eich tocynnau ar gyfer panto’r Pasg nawr!