Welsh of the West End

See dates and times  

Mae’r grŵp theatr gerdd Welsh of the West End yn ôl ym mis Rhagfyr, ar eu taith Nadolig.

Ymunwch â nhw yn Neaudd William Aston, Wrecsam, am gyngerdd arbennig, yn cynnwys clasuron y Nadolig a ffefrynnau theatr gerdd.


Daeth y grŵp, sydd wedi denu dros 20 miliwn o wylwyr ar-lein, i sylw cynulleidfaoedd rhyngwladol wrth gyrraedd rownd gynderfynol byw Britain’s Got Talent ar ITV. Ers hynny, maent wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall, London Palladium a Chanolfan Mileniwm Cymru, wedi serennu ar lwyfannau Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ac wedi cydweithio âg Undeb Rygbi Cymru fel yr adloniant ar y cae cyn y gemau Rygbi Rhyngwladol i gynulleidfa o 75,000 o bobl.

Mae'r grŵp yn cynnwys perfformwyr o sioeau fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.

Mynnwch docyn i ddathlu’r Nadolig mewn steil!