Gŵyl Gomedi Wrecsam
Am yr Ŵyl
Mae Gŵyl Gomedi Wrecsam yn cael ei chynhyrchu a’i gweithredu gan Neuadd William Aston a Theatr Clwyd, ar y cyd â Tŷ Pawb, ac mae’n cael ei chyllido gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thrwy werthiant tocynnau. Nod yr ŵyl yw dod â chymysgedd amrywiol o gomedi o safon byd i Wrecsam gyda phrisiau hygyrch.
Amlbrynu’r Gala
Archebwch 2 neu 3 o’r sioeau Gala Gŵyl Gomedi Wrecsam (Gwe | Sad | Sul) ac arbedwch 20%!Rhowch eich tocynnau ar gyfer yr holl dair sioe yn eich basged a bydd y gostyngiad yn cael ei wireddu wrth y man talu!
Reginald D. Hunter: Fluffy Fluffy Beavers
Mae ei ymddangosiadau ar y teledu wedi cynnwys Have I Got News For You?, a dwy gyfres hynod boblogaidd o Reginald D Hunter’sSongs Of The South a Songs of The Border ar BBC2.
Mae Reginald wedi bod yn perfformio comedi yn y DU ers dros 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi dod yn un o berfformwyr mwyaf adnabyddus y diwydiant Comedi am ei olwg nodedig ar yr ystod fwyaf amrywiol o bynciau.Daniel Kitson & Gavin Osborn
The Ballad of Roger and Grace
Bron i ugain mlynedd yn ôl, fe ysgrifennodd Daniel Kitson a Gavin Osborn eu sioe gyntaf gyda’i gilydd am un noson yn Theatr Awyr Agored Regents Park..
Mae Daniel a Gavin yn dod yn ôl at ei gilydd i berfformio The Ballad of Roger and Grace. Mae hi, a bod yn deg, yn stori hyfryd a doniol gyda chaneuon hardd a thorcalonnus.