Dirprwy Reolwr Profiad
Disgrifiad Swydd

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn chwilio am Ddirprwy Reolwr Profiad i ymuno â’n tîm yn Neuadd William Aston yn Wrecsam. O dan gyfarwyddyd y Rheolwr Profiad Ymwelwyr, cymryd cyfrifoldeb gweithredol am brofiad blaen y tŷ, gan sicrhau gwasanaeth sy’n gyson ddiogel, effeithlon ac uchel i’r holl ymwelwyr ac aelodau’r cwmni.

Oriau: 30 awr yr wythnos
Bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
- Cyfrannu at ddulliau cyfathrebu a chydweithredu da ar draws yr holl Adrannau i sicrhau bod perthnasoedd gwaith rhagorol yn cael eu meithrin.
- Sicrhau bod y tîm Profiad yn cyflwyno Croeso Clwyd.
- Cymell, arwain drwy esiampl a goruchwylio'r tîm Profiad, gan gynnwys gwirfoddolwyr, bob dydd drwy gynnal y safon uchaf o ran cyflwyniad; dangos agwedd gadarnhaol; delio'n brydlon ac yn broffesiynol ag unrhyw geisiadau, a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i bawb.
- Briffio aelodau’r tîm Profiad a gwirfoddolwyr fel bod modd rhannu gwybodaeth hanfodol.
- Dechrau perfformiadau ar amser. Sicrhau bod pob agwedd ar flaen y tŷ yn darparu amgylchedd glân, taclus a chroesawgar i bawb.
- Goruchwylio lles a diogelwch y gynulleidfa a chynnal gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid bob amser.
- Sicrhau bod y tîm Profiad yn barod i groesawu ein hymwelwyr ac yn agor yr adeilad ychydig cyn yr amser agor a hysbysebir i ragori ar ddisgwyliadau’r gwasanaeth.
- Sicrhau bod prosesau diwedd dydd fel cyfrif arian yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn ddiogel.
- Bod yn gyfrifol am gysylltu â thîm Diogelwch Prifysgol Wrecsam i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel ar ddiwedd y sifft olaf bob dydd
- Croesawu pob cwmni, perfformiwr ac artist pan fyddant yn yr adeilad a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
- Dilyn taith y gwesteion drwy bob gofod yn rheolaidd, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn groesawgar.
- Cynnal gwiriadau rheolaidd i sicrhau bod yr holl ofodau, mewnol ac allanol, yn drefnus a rhoi gwybod i'r Rheolwr Profiad Ymwelwyr pan nad ydynt.
- Cadw cofnod ysgrifenedig cyflawn a chywir o ddigwyddiadau a damweiniau yn ystod shifftiau a rhoi gwybod i’r Rheolwr Profiad Ymwelwyr am y rhain hefyd pan fo hynny'n bosibl.
- Helpu i greu awyrgylch creadigol yn yr adeilad sy’n annog artistiaid a chynulleidfaoedd i greu a chymryd rhan yn rhaglen artistig Theatr Clwyd.
Y Person
- Profiad ymarferol mewn rôl weithredol sy'n wynebu cwsmeriaid mewn lleoliad diwylliannol, atyniad i ymwelwyr, gwasanaeth arlwyo, manwerthu, gwesty, bwyty, bar neu amgylchedd lletygarwch arall a/neu gymhwyster cydnabyddedig priodol.
- Dangos angerdd dros weithio yn y sector celfyddydau perfformio.
- Profiad o oruchwylio, ysgogi ac ysbrydoli aelodau tîm rheng flaen (boed hynny'n staff neu'n wirfoddolwyr) drwy arferion gwaith rhagorol.
- Gwybodaeth am ofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a gweithio gyda chynulleidfaoedd/ymwelwyr ag anghenion arbennig.
- Sgiliau gweinyddol trefnus ac effeithiol.
- Medrus wrth ddefnyddio TG.
- Gallu clir i gyfathrebu'n effeithiol ac yn hyderus, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda grwpiau amrywiol o bobl.
- Dealltwriaeth o amrywiaeth a chynhwysiant ac ymrwymiad iddynt.
- Ymrwymiad i ragoriaeth artistig.
- Agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith i ddiwallu anghenion y gwasanaeth, gan gynnwys gweithio gyda'r nos, penwythnosau a gwyliau banc.