Cynorthwy-ydd cadw tŷ (Wrth Gefn)
Disgrifiad Swydd

Mae Neuadd William Aston yn Wrecsam yn chwilio am Gynorthwy-ydd Cadw Tŷ fel gweithiwr wrth gefn i fod yn rhan o'n tîm Profiad. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal glendid a hylendid ledled y lleoliad, gan gynnwys y mannau eistedd, y toiledau, yr ystafelloedd gwisgo, a’r mannau cefn llwyfan eraill. Byddwch yn rhan o dîm sy'n gweithio i sicrhau bod y lleoliad yn edrych yn dda, yn ddiogel, ac yn groesawgar i'n perfformwyr a'n cynulleidfaoedd ni.

Oriau: Wrth Gefn
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
- Gwagio biniau gwastraff ac ailgylchu neu gynwysyddion tebyg, cludo deunydd gwastraff i bwyntiau casglu penodol.
- Ysgubo lloriau gyda brwshys neu fopiau rheoli llwch.
- Mopio lloriau gyda mopiau gwlyb neu laith.
- Hwfro a glanhau carpedi a rygiau.
- Defnyddio peiriannau sgwrio / sgleinio wedi'u pweru'n electronig i sgwrio, sgleinio, chwistrellu a glanhau lloriau.
- Tynnu llwch, sychu gyda chadach llaith, golchi neu sgleinio dodrefn, silffoedd, silffoedd ffenestri ac arwynebau allanol cypyrddau, rheiddiaduron, silffoedd a ffitiadau.
- Ail-lenwi eitemau traul (sebon, papur toiled, tywelion papur) os oes angen.
- Glanhau toiledau, iwrinalau, basnau llaw a sinciau.
- Defnyddio deunyddiau cemegol yn ôl yr angen wrth gyflawni unrhyw weithredoedd glanhau neu weithdrefnau cynnal a chadw wrth gadw at ganllawiau ar gyfer defnydd.
Gweinyddu
- Cadw golwg ar lefelau stoc glanhau a rhoi gwybod i’r Goruchwylydd Cadw Tŷ am lefelau stoc isel (e.e. cynhyrchion glanhau).
- Cyflawni tasgau gweinyddol arferol sy'n ofynnol e.e. ticio tasgau glanhau ar daflenni manyleb glanhau dyddiol.
Y Person
Hanfodol
- Gwybodaeth am ddyletswyddau cadw tŷ cyffredinol.
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau a chyflawni tasgau dirprwyedig yn gywir yn effeithiol ac o fewn amserlenni penodol.
- Parodrwydd i weithio oriau hyblyg, gan gynnwys gyda'r nosau, penwythnosau a gwyliau.
- Prydlon a dibynadwy.
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel aelod o dîm i gyrraedd safonau penodol.
- Bod yn hyblyg i ofynion y swydd fel maen nhw’n newid.
- Ymfalchïo mewn gwaith da.