Cyn i Theatr Clwyd gymryd yr awenau gyda’r gwaith o weithredu Neuadd William Aston, aeth y gweithredwyr blaenorol i ddwylo’r gweinyddwyr o ganlyniad i bandemig Covid 19.
O ran y weinyddiaeth, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Glyndŵr Wrecsam:
“Roedden ni’n drist iawn bod VMS Live (Wrecsam) Cyf., cwmni gweithredu’r lleoliad, wedi cael ei orfodi i symud i ddwylo’r gweinyddwyr. Roedd gan VMS Live (Wrecsam) Cyf. gyfrifoldeb a rheolaeth lwyr dros yr holl berfformiadau a gwerthiant tocynnau. Rydym yn cynghori’r rhai oedd wedi prynu tocynnau i gysylltu â’u darparwr tocynnau yn uniongyrchol (nid Theatr Clwyd gan na fyddwn yn gallu helpu fel y gweithredwr newydd) i gael unrhyw wybodaeth am docynnau.”
Darparwyr tocynnau blaenorol:
- Eventim - 0333 344 625 neu glicio yma
- Ents24 - www.ents24.com
- Ticketmaster - www.ticketmaster.co.uk
- What’s On Stage - www.whatsonstage.com