Ailwerthu ac Ad-daliadau

Ailwerthu

Gellir dychwelyd tocynnau nad oes eu hangen i'r Swyddfa Docynnau i'w hailwerthu. Dim ond pan fydd y perfformiad wedi gwerthu pob tocyn y cynigir tocynnau a ddychwelir i'w hailwerthu.

Bydd cwsmeriaid yn cael ad-daliad neu gredyd am werth unrhyw docynnau a gaiff eu hailwerthu. Codir ffi ailwerthu o ยฃ1 y tocyn. Ni roddir ad-daliad/credyd am unrhyw docynnau sydd heb eu hailwerthu.

Ad-daliadau

Maeโ€™n bwysig i ni bod gennych hyder wrth archebu eich tocynnau gyda ni.

โ€ข Os caiff y sioe ei chanslo

Os caiff y sioe ei chanslo caiff eich arian ei ddiogelu a byddwch yn cael eich arian yn รดl.

Bydd gennych hawl i gael ad-daliad llawn. Efallai y gofynnir i chi a hoffech ad-daliad i'ch cerdyn talu, nodyn credyd gyda'r theatr, cyfnewid eich tocynnau i berfformiad sydd wedi'i aildrefnu neu os hoffech roi swm llawn neu rannol eich ad-daliad fel rhodd i helpuโ€™r theatr gydaโ€™i gwaith.

Mae ad-dalu cynulleidfa lawn yn dasg fawr felly gall gymryd ychydig ddyddiau i'w gwblhau. Os ydych chi wedi talu ag arian parod neu siec, weithiau gall gymryd mwy o amser i ad-dalu arian i chi. Gwnewch yn siลตr wrth archebu eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost a rhif ffรดn i ni a sicrhewch bod eich manylion archebu yn gyfredol.

โ€ข Rhaid defnyddio nodiadau credyd o fewn 18 mis.

โ€ข Os ydych yn cyfnewid i berfformiad gwahanol a bod y tocynnau a ddewisir yn ddrytach, efallai y byddwn yn gofyn i chi dalu'r gwahaniaeth rhwng y seddi hynny (os ydynt yn gost is, byddwn yn rhoi nodyn credyd am y gwahaniaeth). Nid ydym yn cynnig ad-daliadau i gardiau talu oni bai o dan amgylchiadau eithriadol.