Rydych chi wedi dod drwy’r diffeithiwch, rywsut, rydych chi wedi goroesi ac yn barod amdani.
Yn barod wrth i ni gyflwyno – yn syth o Theatr yr Adelphi yn y West End yn Llundain - sioe barti fwyaf yr 80au i deithio'r DU – 80s Live!
Fe fyddwn ni’n gwneud i chi deimlo'n ffres ac yn newydd wrth i ni deithio'n ôl mewn amser i un o gyfnodau mwyaf eiconig y byd cerddoriaeth ar gyfer y noson allan rydych chi wedi bod yn breuddwydio amdani – curwch eich dwylo a mwynhau’r rhythm wrth i'n band byw ni, Electric Dreams, berfformio mwy na dau ddwsin o anthemau gyrhaeddodd frig y siartiau gan Wham!, The Weather Girls, Culture Club, Rick Astley, Madonna, Duran Duran, Soft Cell, The Human League, A-Ha, Tears for Fears a mwy.
Fe fyddwn ni’n teithio ar hyd yr Atlanta Highway, felly dewch â'ch arian ar gyfer y jiwcbocs a byddwch yn barod am Jitterbug!
Noson allan wych o’r 80au, felly dewch wedi gwisgo i greu argraff wrth i ni eich troelli chi rownd a rownd am noson i'w chofio.
Gan gyfuno pop a roc ysgafn, mae'r sioe yn cynnwys Girls Just Wanna Have Fun, The Edge of Heaven, Tainted Love, Love Shack, Living on a Prayer, The Final Countdown, Don’t You Want Me?, Relax, Never Gonna Give You Up, It’s Raining Men, Rio... mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Gyda'n cast a'n band byw syfrdanol, dyma noson berffaith o donic i bawb.
Sioe deyrnged ydi hon heb unrhyw gysylltiad o gwbl ag unrhyw artistiaid gwreiddiol / stadau / cwmnïau rheoli na sioeau tebyg.




