Yn syth o’r Royal Albert Hall, mae A Country Night In Nashville yn ail-greu sîn honci tonc fyrlymus Nashville, gan gyfleu egni ac awyrgylch noson yng nghartref cerddoriaeth canu gwlad yn berffaith.
Byddwch yn barod i gael eich cludo ar siwrnai gerddorol drwy hanes canu gwlad, gyda chaneuon gan rai o sêr mwyaf y gorffennol a’r presennol. Mae caneuon eiconig gan sêr sy’n amrywio o Johnny Cash i Alan Jackson, o Dolly i The Chicks, ac o Willie Nelson i Kacey Musgraves, yn cael eu harddangos gan yr anhygoel Dominic Halpin and the Hurricanes.
Gyda chaneuon sy’n cynnwys Ring Of Fire,Crazy, Follow Your Arrow, It’s Five O’Clock Somewhere, Need You Now, 9-5, a The Gambler i enwi dim ond rhai, mae’r dathliad anhygoel yma o ganu gwlad yn noson na ddylech chi ei cholli.
Agor oriel o luniau



