Mae’r arloeswyr roc gwerin chwedlonol o’r 70au, LINDISFARNE, yn dychwelyd ar eu gorau gyda phum aelod hirdymor o’r band dan arweiniad yr aelod wnaeth ei sefydlu yn wreiddiol, Rod Clements, yn canu ac ar y mandolin, y ffidil a’r gitâr sleid.
Gyda repertoire o ganeuon bythgofiadwy fel Meet Me On The Corner, Fog On The Tyne, Lady Eleanor a Run For Home ac enw da am berfformiadau byw heb eu hail, mae gallu LINDISFARNE i ddiddanu cynulleidfaoedd mewn gwyliau a chyngherddau yn parhau’n ddiguro ac maen nhw’n siŵr o gael y dorf ar ei thraed ac yn cyd ganu.
Rod Clements (1969-presennol) – llais, mandolin, ffidil, gitarau
Dave Hull-Denholm (1994-presennol) – llais, gitarau
Steve Daggett (1986-presennol) – llais, allweddellau, gitarau
Neil Harland – bas
Paul Smith - drymiau