A Fairytale for Christmas

See dates and times  

5 Stars

BBC

5 Stars

What's On

Dyma’r tymor am hwyl yr ŵyl wrth i’r cyngerdd Nadoligaidd Gwyddelig eithaf DDOD YN ÔL ar gyfer 2025!

Ar ôl pedair taith gefn wrth gefn a phob tocyn wedi’u gwerthu, a rhediadau llwyddiannus yn UDA ac Ewrop, mae A Fairytale for Christmas wedi denu miloedd o gefnogwyr Nadoligaidd ledled y byd - ac mae’n ôl hefo ni.

Gan gynhyrchwyr Seven Drunken Nights - The Story of The Dubliners, dyma gyfle i chi ymgolli yn ysbryd y Nadolig wrth i gantorion, cerddorion a dawnswyr talentog gyflwyno perfformiadau syfrdanol o ffefrynnau Nadoligaidd gan gynnwys ‘Santa Claus Is Comin’ To Town’, ‘Step into Christmas’, ‘O Holy Night’ a ‘The Fairytale of New York’.

… ac fel rydych chi’n meddwl nad oes posib i’r parti fod yn fwy o hwyl, mae’r cyngerdd yma o safon byd hefyd yn deyrnged i dapestri cyfoethog y diwylliant Gwyddelig, gyda’r caneuon gorau erioed i gydganu â nhw, gan gynnwys ‘The Galway Girl’, ‘The Irish Rover’, ‘Dirty Old Town’ a ‘The Black Velvet Band.’ Meddyliwch am barti Dydd Sant Padrig - ar Ddydd Nadolig!

Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau draw i rannu yn llawenydd A Fairytale for Christmas, noson allan Nadoligaidd Wyddelig fydd yn aros yn y cof am byth.