O'r diwedd, sioe gerddoriaeth Wyddelig sydd wedi dod o Iwerddon heb y clichés sy’n rhan o hynny fel arfer! Does dim gwisgoedd ciwt na thraciau cefndir yn y sioe yma. Yn lle hynny, rydych chi'n cael cerddorion a dawnswyr hynod dalentog sydd eisiau cyflwyno sain a hwyl Iwerddon i chi mewn lleoliad agos atoch chi a chartrefol.
Mae'r gerddoriaeth fyw, y dawnsio Gwyddelig a'r tynnu coes yn heintus ac yn cydio ynoch chi mewn eiliadau. Mae'r sioe ei hun yn cynnwys pencampwyr cerddorol Iwerddon a phencampwyr dawnsio’r byd sy'n cyfuno cymysgedd unigryw o ryngweithio ysgafn gyda'r gynulleidfa â straeon cyfareddol am y gerddoriaeth a'r offerynnau eu hunain.
Sefydlwyd y sioe wreiddiol yn Nulyn gan grŵp o gerddorion oedd eisiau i ymwelwyr â'r ddinas brofi beth yw parti tŷ Gwyddelig go iawn. Mae'r cyfan yn cael ei gyflwyno mewn ffordd hwyliog a doniol gan arwain at brofiad gwych yn y theatr.
Peidiwch â cholli'r cyfle i gael blas gwirioneddol ar Barti Tŷ Gwyddelig yn fyw ar lwyfan y theatr!