Mae Across the Universe yn ddathliad o “flynyddoedd stiwdio” y Beatles 1966-1970. Mae’r sioe unigryw yma sy’n cynnwys band byw a cherddorfa yn ddathliad y mae’n rhaid i bob cefnogwr o’r Beatles ei weld.
Mae’r gerddoriaeth a recordiwyd gan y Beatles rhwng 1966 a 1970 yn cynrychioli rhai o’r camau mwyaf arloesol yn hanes cerddoriaeth boblogaidd, o ran dyfeisgarwch cyfansoddi caneuon, technegau recordio a sefydlu gwahanol genres cerddorol o fewn cerddoriaeth bop. Nid oedd yn fwriad erioed i lawer o’r recordiadau arloesol yma gael eu hail-greu’n fyw.
Nawr, mewn teyrnged i’r cyfnod hynod greadigol yma yng ngyrfa’r Beatles, mae Across the Universe yn dod â’r recordiadau yma’n fyw gyda manylder a chywirdeb syfrdanol.
Dim wigiau, dim gwisgoedd. Bwriad Across the Universe yw sicrhau dilysrwydd cerddorol, gyda chymorth cerddorfeydd o’r radd flaenaf gan linynnau a phres byw.
Agor oriel o luniau



