James Bond Concert Spectacular

See dates and times  

Mae Q The Music yn cyflwyno The James Bond Concert Spectacular, y cyngerdd sydd wedi ennill bri’r beirniaid ac sy'n ymroddedig i gerddoriaeth James Bond.

Yn cael ei ystyried yn eang fel y perfformiad gorau o gerddoriaeth James Bond ers y gwreiddiol, maen nhw'n dod â'r fasnachfraint fyd-enwog yn fyw ar y llwyfan yn y perfformiad mwyaf angerddol, llawn adrenalin, egnïol a chaboledig y gellir ei ddychmygu, yn cynnwys yr holl ganeuon teitl poblogaidd a rhai ciwiau arbennig o'r sgoriau.

Miss Moneypenny ei hun, Caroline Bliss, fydd yn cyflwyno'r noson, a bydd yn eich tywys chi drwy'r cyngerdd fel arweinydd, gan rannu ambell stori od am ei chyfnod yn y gyfres chwedlonol yma.

Gyda chanu trawiadol, cyflwynydd llawn gwybodaeth a sioe yn llawn alawon eiconig sy’n cael eu perfformio i lefel heb ei hail o fanylder, mae'n noson o safon eithriadol uchel. Fel yr unig gyngerdd James Bond sydd wedi’i greu gan gefnogwyr brwd Bond, ar gyfer cefnogwyr Bond, gan bobl sy'n deall y gerddoriaeth yn well nag unrhyw un arall: ’fyddwch chi ddim eisiau ei golli.