An Evening With Johns' Boys

See dates and times  

Côr Meibion Johns' Boys yw un o’r corau meibion gyda’r nifer mwyaf o wobrau ym Mhrydain. Yn 2019 dyma’r Côr Meibion cyntaf o Gymru, a dim ond y trydydd côr meibion erioed, i ennill teitl mawreddog Côr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Yn 2023, cipiodd y côr galonnau’r genedl wrth ymddangos ar Britain’s Got Talent. Wrth berfformio Biblical gan Calum Scott a Falling gan Harry Styles, fe wnaethon nhw swyno gyda’u lleisiau penigamp, gan ennyn cymeradwyaeth frwd ac emosiynol gan y beirniaid a’r cynulleidfaoedd fel ei gilydd.

Ar ôl ennill miliynau o ddilynwyr newydd yn dilyn eu hymddangosiad ar y teledu, mae Johns' Boys yn dychwelyd i Wrecsam i berfformio.