Ar ôl llwyddiant teithiau ‘Material Girl’ a ‘Much Betta!’, mae Baga Chipz yn ôl! Yn fwy, yn fwy swnllyd ac yn MUCH BETTA nag erioed!
Ymunwch â Baga a'i ffrindiau yr hydref yma wrth iddi ymweld â thref yn eich ardal chi!
Gallwch ddisgwyl noson o leisiau byw; yn bloeddio canu baledi mawr, clasuron disgo a chaneuon y byddech chi’n eu canu yn y dafarn gyda hoeden fwya’r wlad. Hefyd, rhan arbennig wedi’i chyflwyno i'w ffrind annwyl, The Vivienne.
Os nad ydych chi’n hoff o jôcs budr iawn a budreddi llwyr – peidiwch â dod, oherwydd dydi’r noson gomedi fawreddog gradd X yma ddim i’r gwangalon ac mae’n mynd i fod yn VERY, VERY ARSH!
Felly dewch i gael parti gyda’r dywysoges stad cyngor ei hun a dathlu gyrfa 20 mlynedd sydd wedi mynd â hi o fod yn frenhines y dafarn leol i fod yn seren ryngwladol! Gyda straeon a hanesion yn amrywio o gwrdd â’r Frenhines i’r clecs cefn llwyfan ar RuPaul’s Drag Race! gallwch ddisgwyl noson llawn secwins, wigs, plu a gemwaith enfawr. Sioe ydi hon i bob un hun ddawnsio rownd eu bagiau a mynd yn gwbl wyllt. Gyda sesiwn holi ac ateb i’r gynulleidfa, peidiwch â cholli’r sioe yma. Felly, fe fydd hi'n barod amdanoch chi i gyd yn y theatr am barti gorau’r ganrif (neu yn y safle smocio!).
EBYCHIAD – GADEWCH EICH BLYDI PLANT YN Y TŶ!!! Sioe i oedolion ydi hon. Dim croeso i sh*ts bach!