Beach Boys Experience

See dates and times  

Dyma ddathliad llawn heulwen, harmonïau ac egni ffres o gerddoriaeth y Beach Boys - yn wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi'i weld o'r blaen!

Mae cenhedlaeth newydd o gerddorion o safon byd yn dod â sain chwedlonol Califfornia yn ôl yn fyw gyda lleisiau syfrdanol, dawn gerddorol eithriadol ac arddull ddiymdrech.

Dim triciau. Dim dynwared. Dim ond lleisiau go iawn, offerynnau go iawn a'r caneuon oesol a ddiffiniodd genhedlaeth, yn cael eu perfformio gydag angerdd, didwylledd ac egni heintus.

O anthemau roc syrff a chlasuron a gyrhaeddodd frig y siartiau i berlau cudd yn llawn crefft hardd, mae'r sioe hyfryd yma’n dal calon ac ysbryd y fersiynau gwreiddiol, gan gynnig profiad theatr bywiog a chyfoes i gynulleidfaoedd heddiw.

Yn fwy, yn fwy disglair ac yn fwy byw nag erioed, byddwch yn barod i ailddarganfod y gerddoriaeth wnaeth i'r byd wenu.