Simon & Garfunkel Through The Years

See dates and times  

Yn perfformio - Bookends

Simon & Garfunkel: Through the Years ydi'r cyngerdd mwyaf didwyll ei sain o gerddoriaeth fythgofiadwy Simon & Garfunkel. Mae Bookends, sef Dan Haynes a Pete Richards, wedi teithio'r byd yn eang gyda'u cyngherddau'n cael eu disgrifio fel rhai 'cwbl syfrdanol'.

Gan berfformio'r caneuon mewn ffordd gwbl gyfareddol, yn erbyn cefndir o ddelweddau eiconig, mae eu hail-gread gofalus o sain gwbl nodedig y ddeuawd roc gwerin Americanaidd yn gryn gampwaith.

Dewch i glywed sawl un o'r caneuon eiconig, fel The Sound of Silence, Mrs Robinson a fersiwn hyfryd Bookends o'r gรขn fythgofiadwy, Bridge Over Troubled Water.