Ben Elton

See dates and times  

Mae Ben Elton, brenin diamheuol stand-yp modern, yn mynd yn ôl ar daith gyda’i sioe newydd – Authentic Stupidity.

Ffrwydrodd Ben i’r ymwybyddiaeth genedlaethol am y tro cyntaf yn ôl yn yr 1980’au, gan gyflwyno sioe arloesol Saturday Live ar Channel 4 ac mae wedi bod yn gosod y safon ar gyfer comedi stand-yp llawn jôcs sy'n chwalu tabŵs - comedi sy'n gwneud i chi rolio chwerthin ac sy'n ehangu’r meddwl - byth ers hynny!