News Story
Mae Ben Elton wedi bod â llawer i'w ddweud erioed. Dydych chi ddim yn ysgrifennu comedïau sefyllfa di-ri (gan gynnwys Upstart Crow, The Thin Blue Line, The Young Ones a Blackadder), 16 o nofelau, pedair drama yn y West End a phedair sioe gerdd (gan gynnwys We Will Rock You gan Queen) os nad ydych chi'n foi hefo syniadau.
A syniadau ffres sydd wedi sbarduno ei gomedi stand-yp arloesol erioed a bydd digon o’r rhain yn cael eu harchwilio yn ystod taith stand-yp newydd sbon Ben – ei gyntaf ers 2019 (gyda’r un flaenorol wedi bod 15 mlynedd cyn hynny). Enw’r sioe yw Authentic Stupidity, ac mae’n ymwneud â’r pethau hurt rydyn ni fel bodau dynol yn eu gwneud ac yn eu meddwl.
“Mae teitl y daith yn rhyw fath o jôc am sut rydyn ni i gyd yn dweud bod Deallusrwydd Artiffisial yn rhyw fath o fygythiad mawr i ddynoliaeth, ac mae o wrth gwrs, ond rydw i’n meddwl mai’r bygythiad mwyaf mewn gwirionedd ydi Stiwpidrwydd Didwyll! Anghofiwch am AI, mae’n well i ni i gyd boeni am AS! Ond mewn gwirionedd fe allai fy holl deithiau i fod wedi cael eu galw'n Authentic Stupidity, oherwydd maen nhw bob amser yn astudiaeth gomig o abswrdiaeth hanfodol bodolaeth. Rydw i'n meddwl bod pob deunydd comedi da yn gwneud hynny” eglurodd Elton.
“Rydw i wedi gwneud hynny yn fy sioeau erioed. Rhannu fy ofnau a fy llawenydd a’r pethau sy’n fy ngwneud i’n rhwystredig. Jyst bod mor ddoniol ag y galla’ i am y cachu sydd ar fy meddwl i”.
“Mae pob rhan o fy nghomedi i’n archwiliad o annigonolrwydd dynol,” meddai, gan ddefnyddio Blackadder fel un o’i esiamplau cynharaf. “Mae Blackadder yn meddwl ei fod o mor glyfar ond mae ei oferedd o, ei genfigen a’i uchelgais yn ei ddal allan bob tro. Mae angen i ni dderbyn nad ydyn ni’n bopeth ac nad ydyn ni’n gwybod popeth. Pe baen ni’n gwneud hynny rydw i’n meddwl y bydden ni’n gwneud llai o niwed i ni'n hunain ac i'r blaned. Mae’n debyg y byddai’r byd yn lle llawer brafiach a mwy diogel pe baen ni i gyd yn cofleidio ein Baldrick mewnol!”
Dydi hynny ddim i ddweud mai camarwain ydi hyn i gyd, cofiwch. “Mewn rhai ffyrdd, mae’r byd yn lle gwell nawr. Rydw i'n meddwl bod pobl iau wedi dechrau derbyn bod gwendid yn iawn; bod gwendid yn ddim byd ond cydnabod bod arnoch chi angen help efallai, nad ydych chi o reidrwydd y peth yr hoffech chi fod neu y mae pobl yn disgwyl i chi fod. Mae’r holl bethau yma roedden ni’n arfer eu cuddio yn dod allan mwy.”
Mae yna, wrth gwrs, agweddau ar fywyd modern sydd yn bendant heb wella, yn ei farn o. Ac er ei fod o’n mynnu nad ydi o'n luddite, mae o'n ymwybodol iawn o ble mae technoleg yn mynd o'i le. (Mae ei nofel ddiweddaraf, Identity Crisis, yn cynnwys themâu clyfar am sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i brocio rhyfeloedd diwylliant gyda bwriadau ysgeler.)
“Yn bersonol, fe fyddai’n well gen i pe bai’r rhyngrwyd ddim yn bodoli oherwydd, er ei fod yn ddyfeisgar ac yn ddefnyddiol, mae’n prysur ddinistrio democratiaeth oherwydd rydyn ni’n rhy dwp i ddweud y gwahaniaeth rhwng ffeithiau y mae posib eu gwirio a rwtsh llwyr,” meddai.
“A nawr rydyn ni wedi dyfeisio AI, wel, pa mor dwp ydi hynny? Pe bai terfysgwr yn mynd ar y teledu ac yn dweud, ‘Rydyn ni wedi creu peiriant a fydd yn llythrennol yn cymryd lle bodau dynol, fe fydden ni’n anfon MI5 i mewn! Fe fydden ni’n meddwl bod hwn yn fygythiad gwirioneddol i ddyfodol dynoliaeth. Ond gan fod y rhain yn griw o ‘frodyr technolegol’ a biliwnyddion yng Nghaliffornia, rydyn ni i gyd jyst yn dweud, "O wel, mae'n debyg y bydd yn gallu ysgrifennu caneuon Beatles newydd."
Felly ydi o'n edrych ymlaen at ei daith newydd? “Yn sicr, mae cymaint i siarad amdano. Mae dod o hyd i’r doniol yn bwysicach nag erioed”.
Yn ddiddorol, dydi Elton ddim yn meddwl amdano'i hun fel perfformiwr comig gwych; iddo fo, yr ysgrifennu sy’n bwysig, ac mae wedi profi ei hun fel awdur gwych dro ar ôl tro, ers i'r gomedi sefyllfa gwlt The Young Ones ymddangos ar BBC Two yn 1982.
“Rydw i'n gallu bod yn eithaf doniol wrth gyflwyno ond ’fyddai hynny'n ddim byd heb y deunydd. Dydw i ddim yn glown naturiol sy’n gallu gwneud i bobl chwerthin dim ond drwy dynnu wyneb”. Mae’n cofio mynd â’i wraig a’i blant ifanc bryd hynny i gartref ei ffrind Rowan Atkinson, fu’n gweithio gydag Elton ar Blackadder, The Thin Blue Line a Mr Bean.
“Roedd Rowan yn rhannu cacennau ac roedd y gath yn llechu gerllaw ac yn ymddangos fel pe bai ar fin neidio. Fe symudodd Rowan y cacennau o’r golwg ac wedyn, heb ddeall ei fod yn gwneud hynny, fe wnaeth feim bach o gath wedi gwylltio,” meddai. “Am eiliad, roedd yn byw y creadur o’i flaen ac roedd y plant a ninnau’n chwerthin dros y lle. Roedd yn berffaith. ’Fyddwn i ddim yn gallu gwneud hynny. Rydw i’n gallu bod yn ddoniol wrth sgwrsio, ond geiriau ydi fy esgyrn doniol i.”
Dydi o ddim yn canmol digon ar ei hun: roedd yn wych yn cyflwyno’r adfywiad am un noson o Friday Night Live – sioe amrywiaeth o dalentau comig – ar gyfer Channel 4 yn 2022. ’Fyddai’r sioe ddim wedi ennill Bafta yn erbyn sioeau rhagorol eraill oedd wedi’u henwebu oni bai ei fod yn berfformiwr gwych. Disgrifiodd The Guardian ei set fel un “bracingly topical and outspoken”, a dywedodd The Times: “Elton has still got it, oh yes he has.”
Mae’n hynod ddiddorol dod i wybod am sut gall ymdrechion cynnar comedïwr yn y byd stand-yp siapio ei bersona. Byddai’r rhai sy’n gyfarwydd â chynulleidfaoedd (cymharol) gwrtais heddiw yn dychryn yn awyrgylch creulon y Comedy Store yn Llundain, lle gwnaeth Elton – ynghyd â phobl fel Rik Mayall, Adrian Edmondson, French & Saunders a Jo Brand – dorri ei ddannedd.
“Nôl bryd hynny roeddech chi’n cael dwy sioe y noson, yr un gynnar am 10pm, wedyn un am hanner nos, mewn clwb stripio yn Soho. Roedd hi’n 1981, roedd Brixton ar dân, roedd Thatcher yn dechrau ar ei rhyfel deng mlynedd yn erbyn cymdeithas ac weithiau roedd y cynulleidfaoedd yn llawn tensiwn ac yn flin,” eglurodd.
“Doedd pobl ddim wedi tiwnio i mewn i’r hyn rydyn ni bellach yn ei alw’n gomedi amgen, y byddwn i’n ei ddisgrifio fel comedi syniadau, lle rydych chi’n defnyddio eich egwyddorion a’ch credoau chi eich hun i greu eich comedi eich hun. Dyna roeddwn i’n ei wneud yn sicr. Roedd pobl wedi arfer â chomedïwyr oedd yn dweud jôcs ac efallai bod rhan o'r jôc yn ymwneud â delio â heclwyr, felly roedd yna ryw syniad mai dyna oedd comedïwr yn ei wneud - delio gyda heclwyr. Mae'n gas gen i heclwyr. Dydw i erioed wedi clywed hecl ffraeth. Myth ydi hynny.”
Os ydych chi ar y llwyfan yn ceisio gwneud pwynt, cyflwyno syniad cymhleth gan ddefnyddio riff a fydd yn dod i gasgliad boddhaol, rydych chi angen i bobl wrando. Sut ar y ddaear ydych chi'n gwneud hynny pan mae rhywun meddw’n bod yn gwbwl stiwpid?
“Fe wnes i ddatblygu steil oedd yn rhy ymosodol mae’n debyg, i gau cegau'r ffyliaid,” meddai Elton. “Fe gymerodd lawer iawn o amser i mi ddod allan o gysgod y gong.”
Ond yn ystod oes o stand-yp hynod lwyddiannus mae wedi dysgu bod â ffydd mewn cynulleidfaoedd – yn rhannol oherwydd eu bod nhw bellach yn talu i’w weld o yn benodol, yn wahanol i’r dyddiau hynny pan oedden nhw’n cyrraedd ac yn cael eu cyflwyno â lein-yp o berfformwyr anhysbys. “Fe wnes i ddysgu peidio ag ymddiried ynddyn nhw, gan feddwl, pe bawn i'n oedi, y byddai rhywun yn gweiddi allan,” meddai. “Rydw i’n gallu oedi ychydig nawr, ond dydw i dal ddim yn oedi llawer oherwydd mae gen i ormod i’w ddweud.”
Mae Ben Elton: Authentic Stupidity yn dod i Neuadd William Aston, Wrecsam ar 9 Ionawr 2025. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau.