Bon Jovi Experience

See dates and times  

Byddwch yn barod i rocio eich ffordd drwy siwrnai fythgofiadwy gyda’r unig sioe i gael ei chymeradwyo gan Jon Bon Jovi ei hun!

Cyfle i ymgolli mewn dathliad ffenomenal o glasuron oesol Bon Jovi wrth i The Bon Jovi Experience ail-greu hud yr oes honno gydag egni trydanol – gan eich cludo chi’n ôl i anterth roc stadiwm.

Mae The Bon Jovi Experience yn cynnwys caneuon eiconig fel 'LivinOn a Prayer,’ 'Always’, ‘Its My Life‘, 'You Give Love a Bad Name‘, 'Bad Medicine‘ a llawer mwy. Mae ein cerddorion talentog ni a'n prif leisydd carismatig, Tony Pearce, yn cyflwyno sioe roc a rôl egnïol a fydd yn gwneud i chi ganu a dawnsio drwy'r nos!

Os ydych chi wedi bod yn ffan o Bon Jovi erioed neu'n newydd fel dilynwr ac eisiau noson allan fythgofiadwy, mae'r sioe yma’n addo profiad cwbl unigryw!