Cyfle i ymgolli yn ‘The Songs from Every Album Tour’ yn 2026!
Yn cynnwys caneuon o bob un o 15 albwm stiwdio Pink Floyd.
Gyda manwl gywirdeb rhyfeddol a sioe oleuadau syfrdanol – fe fyddwch chi'n clywed y caneuon rydych chi'n eu hoffi, dim ots pa gyfnod gan Pink Floyd ydych chi'n ei ffafrio.
Yn cael ei berfformio gan gerddorion o'r radd flaenaf, mae’r UK Pink Floyd Experience yn ddwy awr o gerddoriaeth anhygoel ac yn ddathliad triw o fand roc mwyaf arloesol y DU.
Bydd y rhai arferol i gyd yno Money, Time, The Great Gig in the Sky, Another Brick in the Wall a Comfortably Numb.





