Bechgyn Drwg Gwreiddiol y Neuadd Ddawns. Dim Hualau! Dim Sgript! Dim Stop!
Brendan Cole a James Jordan yw bechgyn drwg gwreiddiol y neuadd ddawns. Mae eiconau Strictly Come Dancing yn aelodau o deulu brenhinol y byd teledu. Brendan oedd Pencampwr cyntaf Strictly, gan ennill y gyfres gyntaf yn 2004, ac mae James wedi sicrhau ail a thrydydd safle, gan gyrraedd y rownd derfynol ddwywaith yn ystod ei gyfnod o wyth mlynedd. Mae gyrfaoedd y bechgyn ar ôl Strictly wedi bod yr un mor gyffrous. Brendan a James yw'r act ddwbl heb hualau mae eu barn yn goleuo ein sgrin. Ar eu taith act ddwbl gyntaf, gall eu cefnogwyr ddisgwyl noson ffrwydrol o straeon heb ffilter, clecs o du ôl i'r llenni, a barn greulon o onest. Ac, wrth gwrs, fe fydd yna hefyd rai o'r dawnsfeydd a'r symudiadau nodweddiadol wnaeth y ddau yn enwau mor gyfarwydd ac a sicrhaodd eu bod yn parhau i fod ymhlith enwau mwyaf byd y ddawns.




