Mae seren BBC Radio Wales, Bronwen Lewis, yn dychwelyd i'r llwyfan gyda'i thaith ‘Big Night In’ ac mae edrych ymlaen mawr amdani.
Mae'r seren Tik-Tok sy’n chwarae sawl offeryn yn edrych ymlaen yn eiddgar at rannu ei chaneuon a'i straeon newydd gyda chi, a fydd yn cael eu perfformio ochr yn ochr â ffefrynnau ei chefnogwyr oddi ar albymau blaenorol a fersiynau poblogaidd o glasuron traddodiadol Cymreig.
Yn ei sioeau byw mwyaf hyd yn hyn, bydd Bronwen, gyda'i chynhesrwydd naturiol a'i band byw anhygoel, yn mynd â chi ar siwrnai na ddylech ei cholli o arddulliau cerddorol ac emosiynau.
Peidiwch â cholli'r gyfres gyfyngedig yma o sioeau, archebwch nawr a bod yn rhan o Big Night In! Bronwen.
Neges gan Bronwen:
Wel helo cariad,
Rydw i wedi cyffroi’n lân am fod yn teithio eto a chael gweld eich wynebau hyfryd chi. Rydw i wedi bod yn brysur yn ysgrifennu caneuon newydd, cyfieithiadau ac yn hel atgofion am straeon hynod ddoniol o fy mhlentyndod a fy ngyrfa ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at eu rhannu nhw gyda chi.
Cofiwch ddod â’ch lleisiau cryfaf, eich chwerthin mwyaf, bachu rhywbeth neis i’w yfed a dod â’ch anwyliaid gyda chi ac fe wela i chi cyn bo hir.
Diolch i chi am eich holl garedigrwydd hyd yma ar y siwrnai wallgof hon.
Ta ta am y tro!
Bron x