Hounds of Love - The Kate Bush Celebration

See dates and times  

Camwch i fyd etheraidd Hounds Of Love - The Kate Bush Celebration, teyrnged sy'n ail-greu yn driw gelfyddyd, angerdd a hud un o berfformwyr mwyaf eiconig ac enigmatig y byd cerddoriaeth, Kate Bush.

Mae'r cynhyrchiad syfrdanol ymaโ€™n dod รข Tour of Life arloesol Kate Bush o 1979 yn fyw, campwaith theatrig a osododd y safon ar gyfer cyfuno cerddoriaeth, dawns ac adrodd straeon gweledol. Gyda sylw gwych i fanylder, mae Hounds Of Love yn cyflwyno perfformiadau didwyll a manwl gywir o ganeuon oesol Kate, yn rhychwantu oโ€™i halbwm cyntaf The Kick Inside i'w halbwm nodedig Hounds of Love a thu hwnt. Gan gynnwys lleisiau anhygoel sy'n sianelu llais diamheuol Kate, a band byw sy'n gwbl ymroddedig i ddal pob elfen o'i cherddoriaeth, mae'r sioe hefyd yn dal yr ysbryd, y ddrama a'r arloesedd oedd yn gwneud ei pherfformiadau'n chwedlonol.

Byddwch yn barod i gael eich hudo gan glasuron bythgofiadwy fel Wuthering Heights, The Man with the Child in His Eyes, Babooshka, Running Up That Hill, ac, wrth gwrs, Hounds of Love. Mae hwn yn fwy na chyngerdd - mae'n brofiad sy'n dathlu athrylith Kate Bush a'i gwaddol parhaus.

Gadewch i Hounds Of Love - The Kate Bush Celebration eich tywys chi ar siwrnai drwy sain, straeon a golygfeydd byd Kate Bush. I bawb syโ€™n ffans brwd ohoni eisoes ac i unrhyw un sy'n darganfod ei cherddoriaeth ryfeddol hi am y tro cyntaf โ€“ peidiwch รข cholliโ€™r sioe yma!