Noson Odidog o Steil Chwaethus a Chwerthin i Godi’r Galon.
Dewch draw, dewch draw... mae sioe bwrlésg hynaf y DU yn ôl yn teithio'r wlad gyda thro newydd cyffrous! Yn cyflwyno An Evening of Burlesque Cabaret — dathliad disglair o gabaret, bwrlésg ac adloniant o safon byd.
Mae'r sioe amrywiaeth eithaf yma’n cyfuno cabaret chwaethus, comedi, cerddoriaeth a bwrlésg i greu gwledd fawreddog o glitz a steil. Yn cynnwys merched medrus, artistiaid cabaret arbenigol, a sêr y llwyfan a'r sgrin, mae hon yn noson soffistigedig o berfformiadau syfrdanol.
Gallwch ddisgwyl hwyl, plu a gwisgoedd gwych wrth i ni arddangos y detholiad gorau o artistiaid arbenigol, comedïwyr a sioe-ferched siampên. Gyda'i chymysgedd o swyn cabaret a hud bwrlésg, mae'r sioe ragorol yma’n addo profiad unigryw a hudolus sy'n ailddiffinio amrywiaeth ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae bwrlésg wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ers canrifoedd, ac mae An Evening of Burlesque Cabaret yn cyflwyno’r gorau mewn celfyddyd bwrlésg a chabaret cyfoes. Disgwyliwch yr annisgwyl gyda digonedd o gliter, steil ac eiliadau bythgofiadwy. Mae’n amser am goctels a chabaret — mae noson i’w chofio’n aros amdanoch chi!
Peidiwch â cholli’r hud!