Yn dynn ar sodlau ei bedwaredd daith yn y DU gyda phob tocyn wedi’i werthu, mae clairvoyant mwyaf poblogaidd y wlad, un o sêr Phoenix Nights gan Peter Kay, sef Clinton Baptiste, yn ei ôl gyda sioe fyw newydd ar gyfer 2026 a thu hwnt!
Mewn byd heb lyw, mae dynoliaeth angen rhywun i ddod o hyd i’r atebion i gyd o’r bywyd tragwyddol, neu’r ôl-fywyd, sy’n gwybod ac yn gweld popeth.
Ond pwy fydd y person yma?
Wel, wrth gwrs, does dim ond un dyn i gyflawni’r dasg… Clinton Baptiste!
Ar ôl croesawu sawl ymholiad a chyfyng-gyngor gan y gynulleidfa, fe fydd Clinton wedyn yn estyn allan at ysbrydion am atebion.
Ond peidiwch ag ofni. Fe fydd yn holi’n sensitif iawn.
Cysylltiad ysbrydol. Cyfarfod cyfriniol…
…Spectral Intercourse.