Mae Sioe Deyrnged Canu Gwlad Fwyaf y Byd yn ymweld gyda chast arobryn! Wedi'i weld yn y West End yn Llundain a'i anrhydeddu yn y Grand Ole Opry, mae'r cynhyrchiad yma sydd wedi ennill bri rhyngwladol, yn un y mae'n rhaid i bawb syโn hoff o ganu gwlad ei weld.
Mae'r sioeโn cynnwys y dynwaredwyr medrus, Sarah Jayne ac Andy Crust, sydd wedi cael eu cymeradwyo'n bersonol gan Dolly Parton a Kenny Rogers. Yn cael ei chyflwyno gan Sarah Jayne fel Dolly, mae'r sioe yn cynnwys 12 dynwarediad arobryn o gewri fel Kenny Rogers, Johnny Cash, Shania Twain a Luke Combs, gydaโr Country Superstars Band yn cefnogiโr cyfan.
Mae pob manylyn wedi'i saernioโn feddylgar, o gywirdeb lleisiol a gwisgoedd triw i gefndir fideo syfrdanol. Mae'r sioeโn cynnwys neges arbennig gan Dolly ei hun hyd yn oed.
Cyfle i gydganu gyda chlasuron oesol fel 9 to 5, The Gambler, Islands in the Stream a mwy.
Mae'n noson wych i unrhyw gefnogwr!








