Y Nadolig yma, profwch galon, hiwmor ac ysbryd Iwerddon, gyda Christmas in Ireland.
Cyfle i gael eich cludo i noswyl Nadolig hudolus mewn tafarn Wyddelig draddodiadol, lle mae ffrindiau, hen a newydd, yn ymgynnull i rannu caneuon, straeon ac atgofion am Nadoligau a fu. Wrth i eira syrthio y tu allan, mae'r awyr yn llawn fersiynau cynnes o glasuron Gwyddelig oesol, baledi pwerus a'ch holl hoff ganeuon Nadoligaidd. Gan gynhyrchwyr Seven Drunken Nights ac yn cael ei pherfformio'n fyw gan gast rhagorol o gerddorion a chantorion, mae'r sioe’n cynnwys caneuon poblogaidd fel, Driving Home For Christmas, Dirty Old Town ac, wrth gwrs, Fairytale Of New York.
Byddwch yn barod am chwerthin, edrych nôl a llawenydd yr ŵyl mewn sioe hyfryd sy'n dal gwir hud y Nadolig Gwyddelig, lle mae cerddoriaeth yn dod â phobl at ei gilydd, pob cân yn adrodd stori, ac am un noson fythgofiadwy, does neb yn ddieithryn.








