Dewch i gwrdd â David Walliams a dathlu rhyddhau ei gyfrol dirgelwch llofruddiaeth gyntaf erioed, Super Sleuth.
Paratowch ar gyfer sioe awr o hyd gwbl wefreiddiol gydag un o hoff storïwyr Prydain, David Walliams, a fydd yn cynnwys darlleniadau perfformiadol hynod ddoniol a chyfle i gael atebion i’ch cwestiynau CHI yn fyw ar y llwyfan. Hwyl i'r teulu cyfan – byddwch yn siŵr o chwerthin llond eich bol.
Oherwydd cyfyngiadau amser yn ystod y cwrdd a chyfarch, ni fydd David yn gallu llofnodi llyfrau nac unrhyw eitemau eraill, ond cofiwch ddod â ffôn neu gamera i gael llun.