Mae Louis Pearl wedi bod yn gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled y byd ers dros 30 mlynedd gyda chelf, hud, gwyddoniaeth a hwyl swigod. Mae’n ffefryn yng Ngŵyl Fringe Caeredin, lle mae wedi mwynhau 14 mlynedd o lwyddiant yn gwerthu pob tocyn i’w sioeau.
Mae Louis yn archwilio deinameg syfrdanol swigod, gan gyfuno comedi a chelfyddyd gyda chyfranogiad y gynulleidfa a digon o driciau swigod cyfareddol i hudo pawb. O swigod sgwâr i swigod y tu mewn i swigod, swigod llawn niwl, swigod anferth, llosgfynyddoedd, tornados a thrampolinau swigod i bobl y tu mewn i swigod, mae'r Amazing Bubble Man yn gwneud i bobl o bob oed sgrechian, chwerthin llond eu bol ac ebychu mewn anghredinedd.