A must-see for fans of the book, and for any young child who likes animalswhatsgoodtodo.co.uk
Mae Dear Zoo, y llyfr plant sy’n glasur oesol, yn dychwelyd i'r llwyfan!
Cyfle i weld ein cymeriadau ni’n ysgrifennu at y Sŵ. Pwy fydd yn cyrraedd? Mwnci direidus, broga bywiog ac, wrth gwrs, ci bach ciwt.
Helpwch eich plant i ddysgu wrth i'r llyfr lamu ar y llwyfan a rhannu profiad hudolus wrth i'r stori ddatblygu gyda phypedau sy'n swyno plant, cerddoriaeth a llawer o ryngweithio gyda'r gynulleidfa.
Mae llyfr codi’r llabedau poblogaidd Rod Campbell wedi swyno cenedlaethau o ddarllenwyr ifanc ers iddo gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1982. Mae mwy nag 8 miliwn o gopïau wedi cael eu gwerthu ledled y byd.
Bydd y cynhyrchiad yn swyno pawb sydd wedi darllen y llyfr (hen ac ifanc) gyda’i ddefnydd o bypedau difyr, cerddoriaeth a llawer o ryngweithio gyda'r gynulleidfa.
A superb theatrical productionMy Theatre Mates
Agor oriel o luniau







