Y Sioe Gynhanesyddol Orau ar y Ddaear
Sioe deinosoriaid sydd wedi cymryd 65 miliwn o flynyddoedd i’w chreu... Ydych chi'n barod am yr antur NEWYDD SBON?
Ymunwch â'n ceidwaid dewr ni ar siwrnai i ddod o hyd i’r crisial data, adfer pŵer i'r ynys ac achub y Deinosoriaid!
Ewch ati i Stompio, Rhuo a Chwifio eich cynffon wrth i ni eich cyflwyno chi i rai o'r rhywogaethau mwyaf anhygoel i fyw ar blaned y Ddaear erioed. Profiad Jwrasig bythgofiadwy i'r teulu cyfan ei fwynhau.
Dysgwch eu hanes gyda'n ffeithiau Deinosoraidd anhygoel, cwrdd â'n deinosoriaid bach hardd ni a’u bwydo nhw hyd yn oed, ond byddwch yn ofalus… fe allech chi fod ar y fwydlen. Teimlwch y cyffro wrth i chi ddod wyneb yn wyneb â T-Rex a’i glywed yn rhuooooooo!
Mae'r sioe lwyfan ryngweithiol ac ysbrydoledig yma’n cyfareddu plant ifanc a phawb sy’n ifanc yn eu calon, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd ymgolli ym myd cyfareddol a realistig y Deinosoriaid.
’Fyddwch chi ddim eisiau colli'r antur wefreiddiol yma – dewch draw gyda’ch plant ac fe fydd y sioe yma’n eu syfrdanu!
"It's Totally T-rex-iffic"
Agor oriel o luniau



