Byddwch yn barod am ymgyrch enfawr ym myd rhewllyd Ice Age Adventure Live! Cyfle i deithio yn ôl mewn amser i gwrdd ag anifeiliaid cynhanesyddol anhygoel yn y sioe deuluol fwyaf cŵl yr ochr yma i gylch yr Arctig!
Ymunwch â'n harchwilwyr dewr ni wrth iddyn nhw deithio drwy ddyffrynnoedd llawn eira, trechu syrpreisys danheddog, gwneud ffrindiau gydag OGOFWYR CŴL, a hyd yn oed dod â ffrindiau DODO diflanedig yn ôl am reid!
Mae'r antur rewllyd yma’n siŵr o’ch synnu a’ch rhyfeddu chi! Helpwch ein harwyr ni i achub y MAMOTH GWLANOG drwy ymuno â'r hwyl rhewllyd yn y sioe theatr fyw yma.
Ar ôl y sioe, bydd cyfle i fod yn nes nag erioed o'r blaen a chwrdd â'ch ffrind cynhanesyddol, yr ARTH WEN!
Y diwrnod teuluol llawn hwyl yma ydi'r stori rewllyd fyddwch chi byth yn ei hanghofio!
Felly, cydiwch yn eich esgidiau eira a cherdded yn ôl mewn amser gydag Ice Age Adventure Live!




