
Sioeau Teuluol
Dilynwch y Yellow Brick Road i Neuadd William Aston am fersiwn pantomeim Pasg newydd sbon o’r Wizard of Oz. Yn llawn dawnsio gwych, caneuon pop adnabyddus, llawer o gymryd rhan gan y gynulleidfa a digon o chwerthin i'r teulu cyfan!

Oedolion yn Unig! (18+)
Byddwch yn barod am dynnu coes 18+, hiwmor coch iawn, a mwy nag un cyfeiriad eithaf beiddgar yn y panto yma i oedolion yn unig. Panto lle does dim byd yn sioc a lle mae'r chwerthin drygionus yn ddi-baid a di-ben-draw. Gydag iaith gref i oedolion drwy gydol y sioe, mae'r perfformiadau yma ar gyfer pobl dros 18 oed yn unig.




